
Sir Ynys Mon, Cymru, Trefi a phentrefi Cymru. Ble i fynd, beth i weld a lle i aros yn Sir Ynys Mon, Cymru
Cartref >
Mae Sir Fôn yn ynys i ffwrdd o ogledd orllewin Cymru. Mae'n cael ei adnabod yn well fel Ynys Môn yng Nghymraeg ond mae hefyd yn cael ei adnabod fel mam Cymru. Er fod Môn yn ynys mae'n cael ei gysylltu i'r tir mawr gan ddwy bont, Pont Britannia a Phont Menai. Y prif ardaloedd o boblogaeth yw Caergybi yn y gogledd orllewin, y porth fferi i Iwerddon, Biwmares yn y de ddwyrain, cyrchfan Glan-y-môr poblogaidd, a thref sirol Llangefni yng nghanol yr ynys. Wrth gwrs, mae yna nifer o drefi bach a phentrefi wedi eu gwasgaru o gwmpas yr ynys ond mae'r mwyafrif o ddynion dyfod yn cael eu hatynnu i'r cyrchfannau Glan-y-môr sydd wedi tyfu o gwmpas arfordir bendigedig Ynys Môn. Mae yna filltir ar ôl filltir o draethau tywodlyd, pentiroedd creigiog, baeau bach, a chlogwyni dramatig. Mae'r holl ynys wedi ei dynodi fel ardal o "harddwch naturiol ". Mae tai yn amrywio o dai bach a thai fferm cerrig gydag aceri o dir i dai teras bach yng nghanol y trefi mwyaf. Mae tai unllaw o hyd yn boblogaidd gyda phobl leol a dynion dyfod hefyd. Mae diwylliant Cymreig yn bwysig iawn i bobl Môn ac yn wir mae'r iaith Cymraeg yn cael ei siarad gan 60% o'r ynys.
Cymru.eu.com, lle allwch ffeindio gwybodaeth ar drefi a pentrefi yn Sir Ynys Mon, Cymru.