
Dinas a Sir Abertawe, Cymru, Trefi a phentrefi Cymru. Ble i fynd, beth i weld a lle i aros yn Dinas a Sir Abertawe, Cymru
Cartref >
Dinas a Sir Abertawe
Mae'r ddinas a sir Abertawe wedi ei leoli yn ne Cymru. Mae'r sir wedi ei ffinio yn y gogledd orllewin gan sir Caerfyrddin, yn y gorllewin gan Nedd Porth Talbot, a Bae Abertawe yn y de. Mae'r sir gan arwynebedd o 146 milltir sgwâr a phoblogaeth o tua 228,100. Gallwch ddweud fod y sir wedi ei gwneud i fyny o ddwy ran; dinas Abertawe gan gynnwys yr ardal brysur i'r gogledd o'r ddinas; ac ardal wledig y Penrhyn Gwyr i'r gorllewin. Mae'r Gwyr yn cynnig cefn gwlad hyfryd, troeau, hwylfyrddio, astell feistio a rhai o'r traethau gorau ym Mhrydain, tra mae Abertawe yn cynnig y siopa, caffis a thai bwyta, a'r prysurdeb ceisiwch ffeindio mewn dinas cosmopolitaidd. Mae eiddo yn sir Abertawe yn amrywio o fythynnod traddodiadol Cymraeg ar hyd y Penrhyn Gwyr, gyda digon o wlad i gefnogi'r "bywyd da" i dai teras yn ddinas Abertawe ei hun. Mae eiddo maestrefol i'w ffeindio ar ochr Bae Abertawe o ganol y ddinas i pwynt Mwmbwls, yn 'West Cross', 'Norton' a thref Y Mwmbwls ei hun. Mae detholiad mawr o dai yn gallu cael ei ffeindio mewn ardaloedd maestrefol i'r gogledd o'r ddinas gan gynnwys Y Cocyd, Glandwr, Penderi, Mynydd Bach, Treforys, Llansamlet, Gorseinon a Thregwyr. Gallwch ddarganfod eiddo gwledig mewn pentrefi a chyrchfeydd glan y môr ar y Gwyr gan gynnwys Porth Eynon, Rhosili, Llangenydd, Llanrhidian, Reynoldston, Oxwich, Y Grwys, Llandeilo Ferwallt, Dyfnant, Langland a Cila. Mae'r iaith Gymraeg gan bresenoldeb sy'n amrywio trwy'r sir, gyda chanrannau o siaradwyr yr iaith Cymraeg yn amrywio o mor uchel â 45% mewn rhai ardaloedd gwledig i mor llai a 6% yng nghanol y ddinas. Mae'r cyfanswm yn cyfartalu at 13% o siaradwyr Cymraeg yn sir.
Cymru.eu.com, lle allwch ffeindio gwybodaeth ar drefi a pentrefi yn Dinas a Sir Abertawe, Cymru.