
Sir Gaerfyrddin, Cymru, Trefi a phentrefi Cymru. Ble i fynd, beth i weld a lle i aros yn Sir Gaerfyrddin, Cymru
Cartref >
Mae Sir Caerfyrddin yn sir yn ne orllewin Cymru, Prydain Fawr. Mae'r sir wedi ei ffinio i'r gorllewin gan Sir Benfro, i'r gogledd gan sir Ceredigion, ac i'r dwyrain gan sir Powys a Chastell-nedd Port Talbot ac o'r de gan sir Abertawe a Sianel y Fryste. Mae'r sir gen i arwynebedd o 924.7 sgwâr milltir (2,395 cilomedr) a phoblogaeth o 179,500. Yn ddaearyddol mae Sir Caerfyrddin yn sir amrywiol gyda'r Mynyddoedd Cambria yn y gogledd, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y gorllewin a thraethau llydan ym Mhentywyn a Phen-bre yn ne'r sir. Mae'r ardaloedd mwyaf poblog ac yn wir y prif drefi yn gallu cael ei ffeindio yn ne'r sir, gan gynnwys Rhydaman, Porth Tywyn, Cydweli, Llanelli, Sanclêr, Hendy-gwyn a Phentywyn. Mae Caerfyrddin, ar y llaw arall, yn dref sirol oherwydd ei lleoliad canolog ac mae trefi Llandeilo, Castell Newydd Emlyn a Llanymddyfri yn helpu i boblogi'r ardal wledig yng ngogledd y sir. Mae tai yn Sir Caerfyrddin yn amrywio o fythynnod traddodiadol gyda thoeau llechi yn yr ardaloedd gwledig i dai teras a thai trefi sy'n dyddio o'r cyfnod diwydiannol yn ne orllewin y sir. Fel llawer o siroedd Cymraeg mae'r iaith Cymraeg yn cael ei siarad fwy yn rhannau gwledig y sir ac yn ôl y Cyfrifiad (Census) 2001 mae 50.3% o'r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith.
Cymru.eu.com, lle allwch ffeindio gwybodaeth ar drefi a pentrefi yn Sir Gaerfyrddin, Cymru.