
Llanallgo, Sir Ynys Mon, Cymru. Ble i fynd, beth i weld a lle i aros yng Nghymru. Trefi a phentrefi Cymru
Cartref >
|
Enw: Llanallgo
|
Enw Arall: Llanallgo
|
Enw Arall:
|
"Mae drefedigaeth Llanallgo yn un o nifer o drefedigaeth wrth ymyl arfordir dwyreiniol Ynys Mon, yn agos i Foelfre, Gogledd Cymru. Wedi ei sefydlu mewn lle perffaith ar gyfer atyniadau yr arfordir dwyreiniol Ynys Mon, mae Llanallgo ond yn 1cm i ffwrdd o draeth tywod ai ar Draeth Bychan neu draeth creigiol ym Moelfre. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn pasio yn agos i Foelfre ac yn arwain i’r de i Fenllech ac ardal fendigedig Traeth Coch. Ewch gogledd i Borth Eilian ac Amlwch ar yr arfordir gogleddol, neu arhoswch yn agosach i gartref ac ymwelwch a rhai o’r cofadeiladau mwyaf oesol yng Nghymru: gwargedion Hen Gapel Lligwy sy’n dyddio yn ol i’r 12fed ganrif; murddunod y Cylch Cytiau Din Lligwy, esiampl o grwp o hytiau caerog sy’n dyddio yn ol i ddyddiau olaf y Romaniaid; a’r Siambr Claddu Lligwy sy’n dyddio yn ol i ddiwedd y 3ydd mileniwm CC, i gyd o fewn 2km o Llanallgo. Ond mae Llanallgo yn cael ei nabod yn dda am ei eglwys i Sant Gallgo a’i hen fynwent. Ymwelodd yr awdur Charles Dickens a’r eglwys ac ysgrifennodd am yr eflwys yn ei lyfr ‘The Uncommercial Traveller’. Ar noson stormus ym mis Hydref 1859 roedd y Siarter Frenhinol, llong ar ei ffordd adref i Lerpwl o Awstralia, wedi cael ei drylliadau (wrecked) yng nghanol y mor yn agos i Foelfre, a bu farw 465 o bobl. Cafodd 140 eu claddu ym mynwent Llanallgo ac ymwelodd Dickens a Llanallgo yn Nadolig 1859. Roedd Dickens wedi nodi fod y rheithor yn Llanallgo, Y Parchedig Stephen Hughes wedi ysgrifennu dros mil o lythyrau o gydymdeimlad i ffrindiau a theuluoedd y dioddefwyr. Mae’r trasiedi dal i gael ei gofio heddiw gydag colofn yn iard yr eglwys. Ac wrth i mi ysgrifennu yn 2009 mae’r cofeb wrth berygl i syrthio ac mae cynlluniau mewn ymdeithiad i’w gryfhau a'i sefydlu ar gyfer yr 100 mlynedd nesaf. Bu cyfraniadau i’r casgliad yn cael ei werthfawrogi. "
Cymru.eu.com, lle allwch ffeindio gwybodaeth ar drefi a pentrefi yng Nghymru.